Atodiad A
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Dydd Mercher 4 Mawrth 2015
Archwiliad cyllidebol
1. Mae’r atodiad hon yn ymateb i e-bost y Pwyllgor ar 21 Ionawr a oedd yn nodi gwybodaeth cyllidebol arbennig yr hoffai ei chael ymlaen llaw.
Newidiadau a wnaed o fewn y portffolio o ganlyniad i’r ddwy Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15, o’i gymharu â Chyllideb Derfynol 2014-15, ar Lefel Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
2. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r gyllideb yng Nghyllideb Atodol 1, a chafodd y canlynol eu gweithredu fel rhan o Gyllideb Atodol 2.
Bron yn arian parod
· £12.981m o arbedion yn ystod y flwyddyn wedi’u dychwelyd i gronfeydd wrth gefn ar gais y Gweinidog Cyllid i gefnogi buddsoddiadau ychwanegol yn y GIG;
· £8.8m wedi’i symud o’r gyllideb adnoddau i’r gyllideb gyfalaf i gyllido pwysau (gweler y dadansoddiad yn yr adran ar gyllidebau cyfalaf);
· £1m o gyllid llifogydd wedi’i ddwyn ymlaen o 2013-14 dan y Mecanwaith Cyfnewid Cyllidebau i gefnogi’r cynlluniau atal llifogydd a raglennir wedi’u hailbroffilio y bu oedi gyda hwy o ganlyniad i’r atgyweiriadau brys i amddiffynfeydd llifogydd a gyflawnwyd oherwydd stormydd y gaeaf y llynedd;
· £2.5m o gyllid Buddsoddi i Arbed o gronfeydd wrth gefn i mewn i gyllideb CNC ar gyfer cynnig llwyddiannus Cyfoeth Naturiol Cymru am fenter Buddsoddi i Arbed;
· £2.392m o incwm o ffermydd gwynt o CNC i gronfeydd wrth gefn mewn perthynas ag incwm disgwyliedig o brydlesau ffermydd gwynt;
· £0.167m o’r rhaglen ynni glân i’r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth mewn perthynas ag adnoddau’r rhaglen Ynni, a drosglwyddodd i’r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ystod y newid diwethaf i bortffolios ym mis Gorffennaf;
· £0.365m o Gam Gweithredu’r Dirwedd a Hamdden Awyr Agored i’r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gefnogi Nofio am Ddim a’r rhaglen Chwaraeon mewn Ysgolion a drosglwyddodd i’r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ystod y newid diwethaf i bortffolios ym mis Gorffennaf;
· £0.450m o gyllideb CNC i’r Prif Grŵp Gwariant Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu i drosglwyddo i Costau Adnoddau Adrannol i gyllido staff Coedwigaeth a ymunodd â Llywodraeth Cymru yn dilyn ffurfio CNC;
· £0.038m o gyllideb Cam Gweithredu’r Newid yn yr Hinsawdd i Brif Grŵp Gwariant Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu fel cyfraniad at raglen ‘Maint Cymru’ ar gyfer Affrica;
· £0.030m o gyllideb Gweinyddu’r Taliad Sengl i Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Tir, sydd bellach yn rhan o’u portffolio;
· Cafodd yr holl drosglwyddiadau o fewn y Prif Grŵp Gwariant eu gweithredu i ailalinio cyllidebau ar gyfer gwella’r broses adrodd ac i gyllido nifer o bwysau ar draws y Prif Grŵp Gwariant;
Nad yw’n arian parod
· £5.706m o gronfeydd wrth gefn i gwrdd â chostau dibrisiant cynyddol system isadeiledd TGCh CNC;
· £0.670m o gronfeydd wrth gefn i gwrdd â’r costau dibrisiant a gododd o weithredu system TG Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru yn dilyn buddsoddiad cyfalaf cychwynnol.
Cyfalaf
Manylion unrhyw gyllid ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer CNC yn 2014-15 ar ben y cymorth grant a ddangosir yng Nghyllideb Derfynol 2014-15.
3. Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol hon (2014/15) cynlluniodd CNC ar gyfer cyllideb fantoledig o £191.4m. Mae’r rhagolygon cyfredol fel a ganlyn:
· Incwm blynyddol £203.3m(yn bennaf oherwydd £5m o incwm ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau Buddsoddi i Arbed, treialon Rheoli Adnoddau Naturiol, ac incwm masnachol ychwanegol).
· Gwariant blynyddol £202.2m(wedi gostwng o £202.7m o ganlyniad i ymdrechion cynyddol gyda chostau mewnol.)
· Alldro a Ragwelir: Gwarged o £1.1mar ddiwedd y flwyddyn, (bwriedir ei gario ymlaen i 2015/16).
.
4. Gweler isod y prosiectau unigol sydd wedi cael ymrwymiad ar gyfer cymorth ychwanegol. Mae’r ffigyrau hyn yn ymwneud â darpariaethau a fydd yn cael eu talu yn 2014/15. Noder ei bod yn debygol y bydd taliadau ychwanegol cyn diwedd y flwyddyn ond nid yw’r union ffigyrau’n hysbys eto
Ymchwil i Rywogaethau Estron Goresgynnol (paratoi ar gyfer deddfwriaeth newydd) |
£138,500 |
Arfarniadau ar gyfer strategaeth dŵr |
£8,000 |
A465 – gallu ychwanegol ar gyfer asesu’r cynllun (Cyllidir gan yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth) |
£128,700 |
Glastir Uwch – Ansawdd Dŵr |
£470,000 |
Asesiad o gymeriad y forwedd |
£35,000 |
Cynllun Morol Cymru |
£40,595 |
Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn |
£75,000 |
Ffrwd data gwastraff |
£138,500 |
Taclo Tipio Cymru |
£185,000 |
Treialon ardal rheoli adnoddau naturiol |
£1,000,000 |
Y Gronfa Natur (Prosiect Llynfi) |
£627,000 |
Cyfalaf Llifogydd – Cyllid Cydgyfeirio Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru |
£190,000 |
Cyfalaf Llifogydd – Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru |
£8,150,000 |
Trosglwyddo Byrddau Draenio Mewnol |
£296,500 |
Y Gronfa Natur
5. Mae’r tabl isod yn nodi’r cyllid a ddyrennir i bob un o brosiectau’r Gronfa Natur. Mae hefyd yn dangos y taliadau rhagamcanol o’r gronfa i bob prosiect ac yn nodi pa un a yw taliadau’n cael eu gwneud fel ôl-daliadau ynteu fel rhagdaliadau.
Teitl y Prosiect |
Dyfarniad o’r Gronfa Natur |
Taliad erbyn ddiwedd mis Ionawr 2015 |
Taliad a ragamcanir erbyn diwedd mis Mawrth 2015 |
Cyfansymiau terfynol y taliadau a ragamcanir ar gyfer 2015 |
Coed Cymru ac Ymddiriedolaethau Afonydd |
£658,500 |
0 |
£373,600 |
£284,900 |
Prosiect Adfer Ucheldir Berwyn a Migneint, y Mynyddoedd Duon a Maesyfed |
£241,800 |
0 |
£241,800 |
0 |
Buzz Naturiol – prosiect i gefnogi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio |
£130,000 |
£108,000 |
£22,000 |
0 |
Cynllun Gwella Dyffryn Elwy – Prosiect Gwella Cynefinoedd |
£180,000 |
0 |
£180,000 |
0 |
Cysylltedd Arfordirol Partneriaeth Llŷn |
£200,000 |
|
£30,000 |
£170,000 |
Llystyfiant dieisiau ac adfer mawndiroedd |
£132,000 |
|
£132,000 |
0 |
Cynnig am gyllid natur ar gyfer Y Goedwig Hir |
£190,000 |
£121,550 |
£45,900 |
£22,550 |
Peatland Push Cymru – Tirwedd Fyw Pumlumon (PLL) – Cynllun Talu am Wasanaethau Ecosystem (PES) |
£59,000 |
0 |
£34,356 |
£24,644 |
Prosiect Ucheldir Cymoedd y Dwyrain |
£280,000 |
0 |
£205,493 |
£74,507 |
Pond Connections |
£63,000 |
0 |
£27,822 |
£35,178 |
Penrhyn Castellmartin: Integreiddio Adnoddau Naturiol a Chymdeithasol |
£144,000 |
0 |
£71,750 |
£72,250 |
Future Fisheries - Living Seas |
£62,000 |
£0 |
£52,250 |
£9,750 |
Prosiect Pollinators for life |
£282,100 |
0 |
£242,920 |
£39,180 |
Prosiect Glaswellt y Gweunydd Elenydd |
£152,000 |
0 |
£90,045 |
£61,955 |
Partneriaeth Menter Ecosystemau (EEP) – Prosiect Ecobank |
£150,000 |
0 |
£150,000 |
0 |
Adfer Ecosystemau’r Mynyddoedd Duon: Cysylltu Mawndiroedd, Rhostiroedd, Afonydd a Choetiroedd |
£201,500 |
0 |
£188,750 |
£12,750 |
Rheoli a chael budd o adnoddau coetir yng Nghonwy wledig |
£125,000 |
£51,000 |
£74,000 |
0 |
Rhaglen Tirwedd y Dyfodol NWM (Yn cynnwys Llyn Fyrnwy, Rhostir Cynaliadwy, Datblygu ecosystem a Ffocws Cynghori Ffermwyr) |
£241,800 |
0 |
£179,711 |
£62,089 |
Gwaith cysylltedd yn Nalgylch Duhonw |
£128,000 |
0 |
£128,000 |
0 |
Cwm Llynfi |
£627,000 |
0 |
£627,000 |
0 |
Cronfa Pontio CNC |
£750,000 |
0 |
£750,000 |
0 |
Cyfanswm |
£4,997,700 |
£280,550 |
£3,847,397 |
£869,753 |
6. Mae’r gwariant a’r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer y Gronfa Natur yn eistedd gyda Llinell Wariant 2828 ym Mhrif Grŵp Gwariant 1000-Cyfoeth Naturiol a Bwyd. Mae’r cyllid hyd yma wedi cael ei ddyrannu o arian heb ei ymrwymo o Linell Wariant Yr Amgylchedd Naturiol 2825, Llinell Wariant Perygl Llifogydd 2230 (mae’r prosiectau a gefnogir gan y cyllid arfaethedig yn cynnwys rhai a fydd yn defnyddio datrysiadau naturiol ar gyfer rheoli perygl llifogydd neu’n darparu dulliau gwell ar gyfer rheoli tir a allai leihau perygl llifogydd), a Llinell Wariant Newid yn yr Hinsawdd 2815 (mae’r prosiectau a gefnogir gan y cyllid arfaethedig yn defnyddio dulliau naturiol o liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd neu’n ychwanegu cadernid er enghraifft dal a storio carbon mewn mawndiroedd, creu gwlypdiroedd a chreu coetiroedd).
7. Yr elfen olaf o’r Gronfa Natur yw darparu £750,000 ar gyfer CNC i helpu’r sefydliad gyda’i phroses bontio o ran datblygu’r arfer o Reoli Adnoddau Naturiol mewn modd integredig. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gefnogi nifer o brosiectau a fydd yn cyfrannu at y tri threial ardal sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn nalgylchoedd afonydd Dyfi, Rhondda a Thawe i helpu i ddarparu’r dystiolaeth a’r gwersi i lywio’r newid tuag at reoli adnoddau naturiol mewn modd integredig.
Llifogydd ac Erydu Arfordirol
8. Dros y flwyddyn ariannol hon byddwn wedi buddsoddi £55.6m mewn rheoli risg llifogydd. Mae hwn wedi’i rannu fel a ganlyn:
· Cyllideb Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM): £9.8m
· Cyllideb Refeniw Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM): £27.3m
· ERDF: £6m
· Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP): £12.5m
9. Rydym wedi buddsoddi dros £245 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros oes y Llywodraeth hon. Cefnogir hyn gan bron i £50 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dros gyfnod o chwe blynedd a ddaw i ben yn 2015.
Dadansoddiad blynyddol o’r gyllideb graidd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol:
Blwyddyn Ariannol |
Cyllideb Adrannol Flynyddol FCERM |
Cyllid Cyfalaf Ychwanegol a Gafwyd yn y Flwyddyn |
Cyfanswm Cyllid (FCERM + ffynon-ellau ychwan-egol) |
||||
Cyfalaf |
Refeniw |
Cyfan-swm y Gyllideb FCERM |
CRC/ WIIP |
Trosglwyddiadau Is-adrannol |
ERDF |
||
2011/12 |
17.0 |
19.7 |
36.7 |
2.2 |
3.5 |
15.0 |
57.4 |
2012/13 |
14.7 |
21.0 |
35.7 |
11.0 |
|
9.0 |
55.7 |
2013/14 |
14.7 |
27.4 |
42.1 |
14.0 |
|
5.0 |
61.1 |
2014/15 |
9.8 |
27.3 |
37.1 |
13.5 |
|
7.0 |
57.6 |
2015/16 |
9.8 |
27.3 |
37.1 |
12.5 |
|
6.0 |
55.6 |
Oes y Llywodraeth |
66.0 |
122.7 |
|
53.2 |
3.5 |
42.0 |
287.4 |
Refeniw: Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n mynd â’r mwyafrif o’r gyllideb refeniw gyda thuag £19.5m yn flynyddol. Caiff gweddill y gyllideb refeniw ei rhannu rhwng y grant Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, costau staff rhaglenni a meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer y Rhaglen Llifogydd.
Cyfalaf: Caiff dyraniadau Cyfalaf Cymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar gyfer eleni eu nodi yn y tabl isod. Mae gan gynlluniau draenio tir gyfradd grant o 85%, sy’n golygu bod gofyn i’r awdurdod lleol arweiniol ddarparu cyllid cyfatebol o 15% tra gall cyfradd y grant ar gyfer cynlluniau arfordirol fod hyd at 100%.
10. CNC sy’n gyfrifol am gynlluniau prif afonydd ac maent yn rheoli eu rhaglen gyfalaf eu hunain gyda chyllid o Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP), Cymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a chyllid ERDF trwy Ewrop. Mae CNC yn rhagweld gwariant o £19.3M ar gynlluniau cyfalaf ar gyfer 2014/15.
11. Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais gyllid ychwanegol o £150,000 ar gyfer CNC oddi mewn i gyllidebau Rheoli Perygl Llifogydd i gynorthwyo gyda’r gwaith o weithredu’r argymhellion. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ei gwneud yn bosibl cwblhau o leiaf 37 erbyn diwedd 2015, heb yr angen i ail-flaenoriaethu gwaith.
12. Gall Dŵr Cymru Welsh Water gael budd o gyllid ERDF ar gyfer rheoli perygl llifogydd hefyd. Ar gyfer 2014/15 mae hyn yn gyfanswm o £1.4m.
Cynlluniau awdurdodau lleol 2014/15:
Awdurdod Lleol |
Cyllideb FCERM |
ERDF |
Mae’n Cynnwys Cynlluniau yn: |
Ceredigion |
3,725,000 |
|
Borth Cam 2 (Arfordirol) |
Conwy |
1,960,679 |
|
Bae Colwyn cam 1c (Arfordirol), Afon Bach, Llansannan. (Draenio Tir) |
Sir Ddinbych |
1,823,935 |
1,975,887 |
Gorllewin y Rhyl (Arfordirol) |
Ynys Môn |
568,758 |
551,167 |
Biwmares (Arfordirol) |
Caerffili |
178,500 |
|
Ynysddu (Draenio Tir) |
Caerdydd |
854,326 |
702,674 |
Yr Eglwys Newydd/Rhiwbeina (Draenio Tir) |
Sir Fynwy |
411,457 |
522,972 |
Station Road, Blake street (Draenio Tir) |
Sir Benfro |
465,000 |
|
Aber Bach (Llifogydd llanw) |
Powys |
955,990 |
999,329 |
Kerry Gilfach, pentref Tregynon, Talgarth cam 2 (Draenio Tir) |
Rhondda Cynon Taf |
679,474 |
760,009 |
Nant Gwawr, Bwlffa Road, Rhydyfelin, Nant y Fedw (Draenio Tir) |
Bro Morgannwg |
474,791 |
457,018 |
Colbrwg (Dalgylch) |
Y Môr a Physgodfeydd
13. Mae disgwyl i Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol wario tua £500,000 yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Môr. Bydd y gwariant yn canolbwyntio ar draws y prosiectau o fewn y rhaglen yn ogystal â deddfwriaeth. Oherwydd ansicrwydd o ran y gwariant disgwyliedig yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn, ynghyd â lefel ddisgwyliedig y gostyngiadau yn y gyllideb, ni chafodd cyllid ei ddyrannu yn ystod proses y gyllideb atodol; yn hytrach mae’r gyllideb ar gyfer Y Môr a Physgodfeydd ar y cyfan yn cael ei monitro a gall amsugno rhywfaint o’r gwariant hwn, a bydd unrhyw ddiffyg yn cael ei reoli o fewn hyblygrwydd yn y Prif Grŵp Gwariant ar ddiwedd y flwyddyn. Unwaith y bydd proffil y gwariant cyfredol a phellach ar y Cynllun Gweithredu Strategol wedi cael ei nodi ymhellach, bydd y cyllidebau’n cael eu dyrannu ym mhroses y gyllideb atodol yn ystod 2015/16.
Y Newid yn yr Hinsawdd
14. Mae’r gyllideb ar gyfer Tîm Gweithredu a Gwrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd. wedi’i chynnwys o fewn y llinell Newid yn yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd yn y Prif Grŵp Gwariant Cyfoeth Naturiol ac ar gyfer 2014-15, £617,000 yw’r gyllideb hon.
15. Mae’r llinell hon yn y gyllideb yn cynnwys cyllid statudol i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ogystal â chymorth i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. £471,851 oedd y gwariant hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2014 a rhagwelir y bydd y gyllideb wedi’i gwario’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
16. Fodd bynnag, dylid nodi bod y newid yn yr hinsawdd yn fater trawsbynciol a bydd yr holl adrannau yn Llywodraeth Cymru’n gweithio i fynd i’r afael â’r mater. Mae manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau i filwrio yn erbyn a sefydlu cadernid i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn elfen allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd.
Canolfan Data Cymru
17. Lansiwyd gwefan y Ganolfan Wybodaeth ym mis Gorffennaf 2014 ac mae’n darparu mynediad at ddata cadarn, cyfoes. Trwy weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, mae setiau data allweddol ychwanegol wedi cael eu nodi fel rhai sydd â gwerth i ystod eang o ddefnyddwyr. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i flaenoriaethu’r broses o gyhoeddi’r data yma yn unol ag anghenion datblygwyr ac i ddatblygu’r offer i alluogi defnyddwyr i gael mynediad rhwydd at y data.
18. Un o egwyddorion allweddol y Ganolfan Wybodaeth yw sicrhau bod y ganolfan yn cael ei datblygu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol i ychwanegu gwerth at y rhwydwaith presennol. Gan hynny, mae datblygiad y ganolfan wedi adeiladu ar systemau presennol, gan ddefnyddio sgiliau ac adnoddau mewnol presennol. Mae £10,000 - £20,000 pellach wedi cael ei ddyrannu o’r un gyllideb cyn diwedd y flwyddyn ariannol i gynnal yr isadeiledd TG a sicrhau adnodd datblygwr TG o Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn bosibl cyhoeddi’r setiau data sy’n flaenoriaeth a datblygu offer cysylltiedig. Bydd materion o ran darparu adnoddau ar gyfer y Ganolfan Wybodaeth a’i chynnal yn yr hirdymor yn cael sylw fel rhan o gynllun strategol.